Yno yn hwyrddydd Ebrill

H. Roberton

Yno yn hwyrddydd Ebrill,

Awel hwyr yn fy nghlyw,

Aeth defaid a'i gwynionŵyn

Tua'r bryniau i fyw.

Aeth defaid a'i gwynionŵyn

Tua'r bryniau i fyw,

Yno yn hwyrddydd Ebrill

Mi gofiais am Oen fy Nuw.

A'r ŵyn gan luddedyn crïo

 rhyw wan ddynol lef,

Mi gofiais am Oen fy Nuw;

Marw'n addfwyn wnaeth Ef.

Fry ary gleision fryniau,

Gwlithog hyfryd yw'r hin,

Gorffwys i'r cyrff bach eiddil,

Gorffwys i'r traed bach blin.

Ond am yr Oen, Oen addfwyn Duw,

Fry ary bryncyn glas,

Rhoed iddo groes, do, croes owawd,

Rhwng dau groesbren di-ras.

Yno yn hwyrddydd Ebrill,

Awel hwyr yn fy nghlyw,

Gwelais y defaid a'rŵyn,

A chofiais am Oen fy Nuw.