Dafydd y Garreg Wen
Britten, Benjamin
"Cariwch", medd Dafydd, "Fy nhelyn imi,
Ceisiaf cyn marw roi tôn arni hi
Codwch fy nwylo i gyrraedd y tant;
Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant.
Llifai'r alawon o'r tannau yn lli,
Melys oedd ceinciau fy nhelyn i mi.
Nid oes a erys o'r afiaith a'r tân;
Gwywodd yr awen, a thawodd y gân.
Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn:
-- Dafydd, tyrd adref, a channa trwy'r glyn. --
Delyn fy mebyd! ffarwel i dy dant.
Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant."